Yr wyddor Gymraeg

Cerdyn yr wyddor Gymraeg o'r 19g, sy'n dangos y priflythrennau.
Cerdyn sy'n dangos y llythrennau bychain, y llythrennau italaidd, yr wyddor blith-draphlith, y llafariaid, a'r cytseiniaid.

Ffurf ar yr wyddor Ladin a ddefnyddir i ysgrifennu'r iaith Gymraeg yw'r wyddor Gymraeg. Mae ganddi 28 o lythrennau, fel a ganlyn:

Priflythrennau
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y
Llythrennau bychain
a b c ch d dd e f ff g ng h i l ll m n o p ph r rh s t th u w y

Erbyn heddiw cydnabyddir j hefyd yn llythyren yr wyddor gan lawer o ramadegwyr. Fe'i defnyddir mewn geiriau benthyg.

Mae a, e, i, o, u, w, y yn llafariaid. Gall i ac w fod yn gytseiniaid hefyd megis yn neu galwad.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search