Yr wyddor Gyrilig

Dosbarthiad yr wyddor Gyrilig. Hi yw'r prif wyddor yn y gwledydd gwyrdd tywyll, ac fe'i defnyddir ynghyd â gwyddor arall yn y gwledydd gwyrdd golau.

System ysgrifennu yw'r wyddor Gyrilig, a ddefnyddir heddiw ar gyfer rhai ieithoedd Slafonaidd (Belarwseg, Bwlgareg, Macedoneg, Rwseg, Serbeg ac Wcreineg). Fe'i defnyddir hefyd i ysgrifennu nifer o ieithoedd an-Slafonaidd yn Rwsia a Chanolbarth Asia. Ysgrifennid rhai ieithoedd eraill, megis Aserbaijaneg, yn yr wyddor hon ar adegau yn y gorffennol.

Datblygwyd yr wyddor Gyrilig yn y nawfed ganrif gan ddisgyblion i'r ddau sant, Cyril a Methodius, yn sgil eu hymdrechion i gyflwyno Cristnogaeth i'r pobloedd Slafaidd. Dyma'r rheswm am yr enw.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search