Ffeministiaeth

Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn Dhaka, Bangladesh, 8 Mawrth 2005, a drefnir yn flynyddol gan Undeb Llafur Rhyngwladol Gweithwyr Benywaidd Bangladesh.
Marwolaeth Emily Davidson, wedi iddi neidio o flaen ceffyl Brenin Siôr V yn 1913.

Mudiadau gwleidyddol, celfyddydol, ac economeg sy'n ceisio hawliau a chydraddoldeb i ferched ydy ffeministiaeth. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael eu cynnwys a'u gwarchod gan y gyfraith o fewn cymdeithas, o fewn byd y gyfraith, busnes, addysg. Gellir edrych arno fel rhan neu ymsetyniad o hawliau dynol.

Dros y blynyddoedd defnyddiwyd llawer o ymgyrchoedd gwahanol ac ymfflamychol i newid yr ogwydd tuag at gydraddoldeb. Gall y gair "ffeminist" gyfeirio at berson o'r naill ryw neu'r llall, sy'n credu mewn daliadau ffeministiaeth.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search