Pleidleisio

Mae pleidleisio yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd.

Mae pleidleisio neu fwrw pleidlais yn fodd i grŵp neu etholaeth wneud penderfyniad neu fynegi barn — yn aml yn dilyn trafodaethau, dadleuon neu ymgyrch etholiadol.

Mae'r rhan fwyaf o ddemocratiaethau yn penderfynu barn y bobl drwy bleidleisio cyffredin. Dyma'r dull symlaf o ddewis person neu bersonau: er enghraifft, mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer dewis cynrychiolwyr yn Nhŷ'r Cyffredin, defnyddir y system yma, sef: System etholiadol 'y cyntaf i'r felin' (neu: 'y cyntaf heibio'r postyn'), lle dewisir un person ar gyfer un darn o dir (yr etholaeth).

Papur Pleidleisio Etholaeth Gorllewin Clwyd; Etholiad Cyffredinol Mai 2015
Papur 'Pleidlais Amgen'

Rhoddir un croes ar bapur pleidleisio i nodi'r person a ddewisir. Gwendid y broses yma o ddewis un person ar gyfer un etholaeth yw y diystyrir pleidleisiau'r sawl sy'n pleidleisio dros bob plaid sy'n colli. Fe allai Plaid A ennill oddeutu 40% bob tro, Plaid B 30%, Plaid C 20% a Phlaid Ch 10%. Mewn sefyllfa o'r fath gallai mwyafrif yr etholwyr fod heb lais - a hynny am gyfnod sylweddol iawn o amser. Wrth osod canlyniadau etholaethau unigol at ei gilydd gellir cael sefyllfa ble mae anghyfartaledd sylweddol rhwng y ganran o bleidleisiau mae plaid yn ei dderbyn a'r ganran o seddi mae'r blaid honno yn ennill. Gwelwyd hyn yng Nghymru am flynyddoedd, pan roedd Llafur yn ennill mwyafrif sylweddol iawn o seddi, ond yn aml dim ond tua 50% o'r bleidlais. Yn genedlaethol roedd gan y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol (ac i raddau llai Plaid Cymru a UKIP) lawer o bleidleisiau, ond nifer bychan iawn o Aelodau Seneddol. Er mwyn gwella'r system syml yma, defnyddir system bleidleisio gynrychioladol.

Yn y rhan fwyaf o wledydd gwneir hyn yn gyfrinachol, a pherchir yr hawl i gadw'r wybodaeth i bwy y pleidleisodd person yn gyfrinachol. Gelwir yr adeilad lle bwrir y bleidlais yn 'orsaf bleidleisio' a all fod yn ysgol, neuadd bentref neu ystafell gyfarfod.

Math arall o system bleidleisio pan fo angen sawl cynrychiolydd yw pleidlais amgen (Instant-runoff voting), sy'n fath o bleidlais ffafriol, lle nodir dewis y person drwy roi rhif ar y papur pleidleisio.

Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad yw canran y pleidleiswyr cymwys sy'n bwrw pleidlais mewn etholiad.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search