De America

De America
Mathcyfandir, isgyfandir, endid tiriogaethol (ystadegol), rhanbarth Edit this on Wikidata
Poblogaeth385,742,554 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00, UTC−05:00, UTC−04:00, UTC−03:00, UTC−02:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd17,843,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Y Cefnfor Tawel, Môr y Caribî Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCanolbarth America, Gogledd America, America Ganol Gyfandirol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau21°S 59°W Edit this on Wikidata
Map
Delwedd cyfansawdd lloeren o Dde America

Mae De America yn gyfandir yn Hemisffer y Gorllewin rhwng y Cefnfor Tawel a'r Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf ohono yn Hemisffer y De, gyda rhan gymharol fach yn Hemisffer y Gogledd. Gellir ei ddisgrifio hefyd fel "is-gyfandir deheuol yr Amerig" (Americas). Mae'r cyfeiriad at Dde America yn lle rhanbarthau eraill (fel America Ladin neu'r Côn Deheuol) wedi cynyddu yn ystod y degawdau diwethaf oherwydd dynameg geopolitical newidiol (yn benodol, cynnydd Brasil).[1]

Mae'r Cefnfor Tawel yn ffinio â De America yn y gorllewin ac i'r gogledd a'r dwyrain mae Cefnfor yr Iwerydd, Gogledd America a Môr y Caribî i'r gogledd-orllewin. Mae'r cyfandir yn gyffredinol yn cynnwys deuddeg talaith sofran: yr Ariannin, Bolifia, Brasil, Tsile, Colombia, Ecwador, Guyana, Paragwâi, Periw, Swrinam, Wrwgwái, a Feneswela; dwy diriogaeth ddibynnol: y Malvinas (neu 'Ynysoedd y Falkland') a De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; ac un diriogaeth fewnol: Guyane. Mae tiriogaethau'r Caribî yn cael eu lleoli yng Ngogledd America gan ddaearyddwyr.

Enwyd De America ar ôl Amerigo Vespucci, yr Ewropead cyntaf i awgrymu nad India'r Dwyrain oedd yr Amerig, ond y Byd Newydd.

Mae gan De America arwynebedd o 17,820,000 km² (6,880,000 mi sg), neu tua 3.5% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2005, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn fwy na 371,200,000 ac erbyn 2017 roedd yn 423 miliwn.[2]Nodyn:Additional citation needed Dyma'r pedwerydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) a'r pumed o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop, a Gogledd America).

O ran arwynebedd, mae De America yn y pedwerydd safle (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) ac yn bumed yn ôl poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop a Gogledd America). Brasil yw gwlad fwyaf poblog De America o bell ffordd, gyda mwy na hanner poblogaeth y cyfandir, ac yna Colombia, yr Ariannin, Venezuela a Periw. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae Brasil hefyd wedi cynhyrchu hanner CMC y cyfandir ac wedi dod yn bŵer rhanbarthol cyntaf y cyfandir.[2]

Mae tarddiad diwylliannol ac ethnig y cyfandir yn tarddu yn y bobl frodorol yn ogystal â choncwerwyr a mewnfudwyr Ewropeaidd a yn y caethweision a gludwyd yma o Affrica. O ystyried hanes hir o wladychiaeth (colonialism), mae mwyafrif llethol De America yn siarad Portiwgaleg neu Sbaeneg, ac mae cymdeithasau a gwladwriaethau'n adlewyrchu traddodiadau'r Gorllewin. O'i gymharu ag Ewrop, Asia ac Affrica, mae De America yn yr 20g wedi bod yn gyfandir heddychlon heb lawer o ryfeloedd.[3]

  1. Schenoni, Luis L. (1 Ionawr 1970). "Unveiling the South American Balance". Estudos Internacionais 2(2): 215–232.. https://www.academia.edu/12944490. Adalwyd 8 December 2016.
  2. 2.0 2.1 Schenoni, Luis L. (1 Ionawr 1970). "Unveiling the South American Balance". Estudos Internacionais 2(2): 215–232.. https://www.academia.edu/12944490. Adalwyd 8 Rhagfyr 2016.
  3. Holsti 1996, t. 155

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search