Portiwgal

Portiwgal
República Portuguesa
ArwyddairArfordir Gorllewin Ewrop Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, pŵer trefedigaethol Edit this on Wikidata
PrifddinasLisbon Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,347,892 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Mai 1179 Edit this on Wikidata
AnthemA Portuguesa Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAntónio Costa Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−01:00 Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Portiwgaleg, Mirandeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSouthwestern Europe, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd92,225 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSbaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39°N 9°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Portugal Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad y Weriniaeth Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Portiwgal Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMarcelo Rebelo de Sousa Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Portiwgal Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAntónio Costa Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$253,983 million, $251,945 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith14 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.21 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.866 Edit this on Wikidata

Gwlad a gweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw'r Weriniaeth Bortiwgalaidd neu Phortiwgal (Portiwgaleg: Portugal) (Portiwgaleg: República Portuguesa). Mae hi'n gorwedd rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd ac mae'r ynysoedd Azores a Madeira hefyd yn rhan o'r wlad. Prifddinas Portiwgal yw Lisbon. Fe'i lleolir ar Benrhyn Iberia, yn Ne-orllewin Ewrop. Hi yw'r wladwriaeth sofran fwyaf gorllewinol ar dir mawr Ewrop, wedi'i ffinio â'r gorllewin a'r de gan Gefnfor yr Iwerydd ac i'r gogledd a'r dwyrain gan Sbaen, yr unig wlad i gael ffin tir â Phortiwgal. Mae tiriogaeth Portiwgal hefyd yn cynnwys archipelagos yr Iwerydd yn yr Azores a Madeira, y ddau yn rhanbarthau ymreolaethol â'u llywodraethau rhanbarthol eu hunain. Portiwgaleg yw'r iaith swyddogol a chenedlaethol. Lisbon yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.

Portiwgal yw'r genedl-wladwriaeth hynaf ar Benrhyn Iberia ac un o'r hynaf yn Ewrop, ac mae ei thiriogaeth wedi cael ei setlo, ei goresgyn a'i hymladd yn barhaus ers y cyfnod cynhanesyddol. Pobl gyn-Geltaidd a Cheltaidd oedd yn byw yno, ymwelodd y Phoeniciaid, Carthaginiaid, a'r Groegiaid Hynafol â nhw, a chawsant eu rheoli gan y Rhufeiniaid, a ddilynwyd hynny gan oresgyniadau pobloedd Germanaidd, y Suebi a'r Fisigothiaid. Ar ôl goresgyniad y Penrhyn Iberaidd gan y Mwriaid, daeth y rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn rhan o Al-Andalus. Sefydlwyd Portiwgal fel gwlad yn ystod cyfnod y Reconquista Cristnogol cynnar, sef cyfnod o 750 mlynedd pan ad-enillodd y Cristionogion y rhannau o Benrhyn Iberia a oedd wedi dod dan lywodraeth Islamaidd. Fe'i sefydlwyd ym 868, ac enillodd Sir Portiwgal amlygrwydd ar ôl Brwydr São Mamede (1128). Cyhoeddwyd Teyrnas Portiwgal yn ddiweddarach yn dilyn Brwydr Ourique (1139), a chydnabuwyd annibyniaeth oddi wrth León gan Gytundeb Zamora (1143).[1]

Yn y 15fed a'r 16g, sefydlodd Portiwgal yr ymerodraeth forwrol a masnachol fyd-eang gyntaf, gan ddod yn un o brif bwerau economaidd, gwleidyddol a milwrol y byd.[2] Yn ystod y cyfnod hwn, y cyfeirir ato heddiw fel Oes y Darganfod (neu neu Oes Aur Fforio), arloesodd y fforwyr Portiwgalaidd mewn mordwyaeth gan ddarganfod y tir a fyddai’n cael ei enwi'n Brasil (1500). Yn ystod yr amser hwn ehangodd yr ymerodraeth Bortiwgalaidd gydag ymgyrchoedd milwrol yn Asia. Fodd bynnag, profodd ddigwyddiadau negyddol fel daeargryn Lisbon 1755, Rhyfeloedd Napoleon, ac annibyniaeth Brasil (1822).[3] Parhaodd rhyfel cartref rhwng y rhyddfrydwyr a'r ceidwadwyr ym Mhortiwgal dros olyniaeth frenhinol rhwng 1828 a 1834.

Ar ôl i chwyldro 1910 ddiorseddu’r frenhiniaeth, sefydlwyd Gweriniaeth Gyntaf Portiwgal, gweriniaeth ddemocrataidd ond ansefydlog, a gafodd ei disodli’n ddiweddarach gan drefn awdurdodol yr Estado Novo. Adferwyd democratiaeth ar ôl Chwyldro'r Penigan (<i>carnation</i>) yn 1974, gan ddod â Rhyfel Trefedigaethol Portiwgal i ben. Yn fuan wedi hynny, rhoddwyd annibyniaeth i bron ei holl diriogaethau tramor. Roedd trosglwyddo Macau i China (1999) yn nodi diwedd yr hyn y gellir ei ystyried yn un o'r ymerodraethau trefedigaethol hiraf mewn hanes.

Mae wedi gadael dylanwad diwylliannol, pensaernïol diwylliant a phensaerniaeth Portiwgal wedi ymledu drwy'r byd, fel ag y mae ei hiaith hefyd gyda tua 250 miliwn o siaradwyr Portiwgaleg. Mae'n wlad ddatblygedig gydag economi ddatblygedig a safonau byw uchel.[4][5][6] Yn ogystal, mae'n uchel iawn ar restr gwledydd heddychlon y byd, democratiaeth,[7] rhyddid y wasg, sefydlogrwydd, cynnydd cymdeithasol a ffyniant. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Schengen a Chyngor Ewrop (CoE), ac mae'n un o aelodau sefydlu NATO, ardal yr ewro a'r OECD.

  1. Brian Jenkins, Spyros A. Sofos, Nation and identity in contemporary Europe, p. 145, Routledge, 1996, ISBN 0-415-12313-5
  2. Melvin Eugene Page, Penny M. Sonnenburg, p. 481
  3. "The World Factbook". cia.gov. Cyrchwyd 14 Medi 2015.
  4. "World Economic Outlook April 2014 - Recovery Strengthens, Remains Uneven" (PDF). imf.org. 8 April 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 April 2014. Cyrchwyd 20 April 2021.
  5. "SOCIAL PROGRESS INDEX 2015 : EXECUTIVE SUMMARY" (PDF). 2.deloitte.com. Cyrchwyd 2 Awst 2017.
  6. "Quality of Life Index by Country 2020 Mid-Year". www.numbeo.com.
  7. "Democracy Reports | V-Dem". www.v-dem.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mehefin 2019. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2019.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search