James Bond

Cymeriad ffuglennol yw James Bond a grëwyd gan yr awdur Ian Fleming. Mae'n asiant cudd sy'n gweithio dros MI6. Mae cyfres o ffilmiau enwog am anturiaethau Bond wedi cael eu ffilmio dros y blynyddoedd.

Mae sawl actor enwog wedi chwarae rhan Bond, yn cynnwys yr Albanwr Sean Connery, y Sais Roger Moore a'r Cymro Timothy Dalton. Arferai'r actor o Gymro Desmond Llewelyn chwarae rhan y dyfeisydd ecsentrig "Q" yn y ffilmiau hynny.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search