Biopsi

Biopsi
Enghraifft o'r canlynolmath o brawf meddygol Edit this on Wikidata
Mathinvasive test, sampling Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Biopsi o'r ymennydd

Prawf meddygol diagnostig lle gymerir sampl o feinwe o'r corff i'w harchwilio yw biopsi. Gall y sampl ddod o unrhyw le yn y corff bron, ac mae'r ffordd y gwneir yn dibynnu ar y lleoliad. Mae meddyg yn edrych ar y sampl o dan ficrosgop i weld y celloedd unigol ac yn profi'r celloedd trwy weld eu hadwaith i gemegau amrywiol.[1] Defnyddir biopsïau gan feddygon i wneud diagnosis ar gyfer ystod eang o gyflyrau neu i fesur difrifoldeb cyflwr y claf,[2] ac mae'r math o brawf neu archwiliad yn dibynnu ar ba cyflwr neu arwyddion y mae'r meddyg yn chwilio amdanynt.[1]

Weithiau gwneir biopsïau yng nghanol llawdriniaeth fel y gall llawfeddyg gael y canlyniadau o fewn munudau[3] a gwneud penderfyniad yn y fan a'r lle ynglŷn â'r ffordd orau o drin.[1] Gall yr amser mae'n ei gymryd i gael canlyniadau ar fiopsïau arferol ddibynnu ar yr ysbyty a difrifoldeb cyflwr y claf; gall canlyniadau prawf taeniad serfigol rheolaidd cymryd hyd at 6 wythnos, tra bo profion i gadarnhau diagnosis o gyflwr difrifol megis canser yn aml yn cymryd llai nag wythnos. Weithiau ni fydd canlyniadau'r biopsi yn derfynol felly efallai y bydd y claf yn cael y biopsi eto neu gael profion pellach, gwahanol i wirio'r diagnosis.[3]

Gwneir y rhan fwyaf o fiopsïau yn ystod apwyntiad fel claf allanol, felly nid yw'r claf yn aros yn yr ysbyty dros nos. Ond os rhoddir anesthetig cyffredinol yn ystod y weithdrefn, er enghraifft yn ystod biopsi ar organ mewnol, mae'n bosib y cedwir y claf yn yr ysbyty dros nos er mwyn gorffwys a sicrhau nad oes unrhyw waedu mewnol. Mae'n bosib y bydd angen nifer fach o bwythau neu orchudd ar glwyf os gwneir endoriad yn ystod y biopsi.[4]

  1. 1.0 1.1 1.2  Biopsi: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 17 Medi, 2009.
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw pam
  3. 3.0 3.1  Biopsi: Canlyniadau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 9 Hydref, 2009.
  4.  Biopsi: Gwella. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 9 Hydref, 2009.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search