Cudd-wybodaeth

"Yr hyn sy'n galluogi'r sofran doeth a'r cadfridog da i ymosod a gorchfygu, ac i lwyddo'r tu hwnt i ddynion cyffredin, yw rhagwybodaeth."

Sun Tzu, Sūnzǐ Bīngfǎ ('Celfyddyd Rhyfel')

Maes a phroses yw cudd-wybodaeth sy'n ymwneud â gwybodaeth sydd yn berthnasol i wladwriaeth wrth ffurfio a gweithredu polisi ac wrth amddiffyn yn erbyn bygythiadau i'w diogelwch cenedlaethol.[1] Mae'r term hefyd yn cyfeirio at y wybodaeth a gynhyrchir gan y broses honno.[2] Fe'i hystyrid yn elfen hanfodol o strategaeth filwrol[3] ac offeryn pwysig wrth lunio polisi tramor ac amddiffyn, ac yn achos gweithredu cudd wrth weithredu polisi yn ogystal â'i hysbysu.[4]

Mae union broses cudd-wybodaeth yn amrywio yn ôl ardal a chyfnod, ond hollbresennol yw'r drefn o weithwyr yn casglu a dadansoddi'r wybodaeth, ac yna gwneuthurwyr polisi yn ei hystyried a'u defnyddio.[3] Gelwir y model mwyaf cyffredin o'r broses gudd-wybodaeth yn y cylchred cudd-wybodaeth. Mae hwn yn cynnwys pennu dibenion cudd-wybodaeth, ei chasglu, ei dadansoddi, ei chyflwyno i wneuthurwyr polisi, ac yna o'r adborth caiff anghenion y gwneuthurwyr polisi eu cymryd mewn i ystyriaeth wrth bennu dibenion a chasglu unwaith eto.[5]

  1. Shulsky a Schmitt (2002), t. 1.
  2. Jackson a Scott (2005), t. 164.
  3. 3.0 3.1 George (2010), t. 163.
  4. Jackson a Scott (2005), t. 162–4.
  5. George (2010), t. 164.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search