Anime

Anime
Enghraifft o'r canlynolgenre mewn ffilm, animation style Edit this on Wikidata
Mathgwaith clyweld Edit this on Wikidata
Rhan oanime and manga Edit this on Wikidata
Yn cynnwysffilm anime, anime television program Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anime cyfrifiadur

Talfyriad Japaneg o'r gair Saesneg "animation" ydy anime (Japaneg: アニメ) [anime] (Ynghylch y sain ymagwrando) ac mae'n cyfeirio'n benodol at animeiddiadau wedi'u cynhyrchu yn Japan.[1]

Mae'n deillio yn ôl i 1917,[2] a daeth yn ffasiynol iawn yn Japan ers hynny. Yn yr 1980au daeth yn ffasiynol drwy'r byd. Mae'n cael ei ddarlledu ar deledu, fideo, DVD a hyd yn oed yn y theatr.

Ceir dau fath: cartwnau wedi'u gwneud gyda llaw a rhai wedi'u cynhyrchu gan gyfrifiadur.

Un esiampl o anime yw'r rhaglen Siapaneg "Sailor Moon". Mae'n sôn am bum merch sy'n stopio'r 'Negaverse' drwg rhag cymryd drosodd Tokyo.

Mae'r gair "Anime" yn tarddu o'r dywediad Ffrangeg dessin animé.[3]

Mae'r diwydiant anime yn cynnwys dros 430 o stiwdios, llawer yn enwau mawr: Studio Ghibli, Gainax a Toei Animation. Dim ond ychydig o'r farchnad domestig sydd ganddyn nhw ond talp enfawr o'r diwydiant DVD. Mae anime wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y deng mlynedd diwaetha. Mae anime Japan wedi cael ei gopio gan nifer o wledydd eraill.

  1. anime - Diffiniad Saesneg allan o Merriam-Webster Online Dictionary
  2. "Adalwyd 31 Rhagfyr 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-17. Cyrchwyd 2008-04-17.
  3. "Etymology Dictionary Reference: Anime". Etymonline. Cyrchwyd 2007-09-13.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search