![]() | |
Math | ynys, polis ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 51,930 ![]() |
Gefeilldref/i | Bassano Romano ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Môr Aegeaidd ![]() |
Sir | Bwrdeistref Chios ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 842.5 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,297 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Aegeaidd ![]() |
Cyfesurynnau | 38.4°N 26.02°E ![]() |
Cod post | 82x xx ![]() |
![]() | |
Ynys yn perthyn i Wlad Groeg yw Chios (Groeg: Χίος). Un o'r Ynysoedd Gogledd Aegeaidd, saif yn rhan ogleddol Môr Aegaea, i'r de o ynys Chios, i'r gogledd o Patmos a'r Dodecanese, ac oddi ar arfordir gorllewinol Twrci.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 842 km2; 50 km o hyd a 29 km o led, y bumed o ynysoedd Groeg o ran maint. Fe'i gwahenir oddi wrth arfordir Twrci gan gulfor tua milltir o led. Ynys fynyddig ydyw, gyda'r copa uchaf, Pelineon, yn 1,297 medr o uchder. Mae'n enwog am gynhyrchu gwm mastig, ac mae ei llongau masnach yn bwysig. Poblogaeth yr ynys yn 2001 oedd 51,936, a'r brifddinas yw dinas Chios.
Enwyd mynachlog Nea Moni, sy'n dyddio o'r 11g, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search