Madrid

Madrid
Mathbwrdeistref Sbaen, cyrchfan i dwristiaid, dinas Edit this on Wikidata
PrifddinasMadrid city Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,332,035 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJosé Luis Martínez-Almeida Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantIsidore the Laborer, Virgin of Almudena, Mariana de Jesús Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolVilla y corte Edit this on Wikidata
SirMadrid Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd604.4551 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr667 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawManzanares, Arroyo Meaques Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlcorcón, Alcobendas, Leganés, Pozuelo de Alarcón, Getafe, Rivas-Vaciamadrid, San Fernando de Henares, Coslada, Paracuellos de Jarama, San Sebastián de los Reyes, Colmenar Viejo, Tres Cantos, Hoyo de Manzanares, Torrelodones, Las Rozas de Madrid, Majadahonda Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.4169°N 3.7033°W Edit this on Wikidata
Cod post28001–28081 Edit this on Wikidata
Corff gweithredolGovernment Board of the City of Madrid Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Madrid Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJosé Luis Martínez-Almeida Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Sbaen a phrifddinas yr ardal Comunidad Autónoma de Madrid yw Madrid. Madrid yw'r ddinas fwyaf poblog yn Sbaen, y drydedd ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Llundain Fwyaf a Berlin, a'i hardal fetropolitaidd yw'r ail ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Paris, gyda phoblogaeth o 3,332,035 (2023) yn y ddinas a 3,332,035 o bobl o gynnwys yr ardal ehangach. Lleolir y ddinas ar lannau Afon Manzanares reit yng nghanol daearyddol y wlad, ac yng nghanol Comunidad Autónoma de Madrid, sy'n cynnwys dinas Madrid, ei chytrefi a'i maesdrefi a phentrefi ehangach; ffinia'r gymuned hon gyda chymunedau hunan-lywodraethol Castilla y León a Castilla-La Mancha. Mae ei harwynebedd yn 604.3 km2 (233.3 milltir sgwâr).[1]

Madrid

Fel prifddinas Sbaen, lleoliad y llywodraeth a chartref y brenin Felipe VI; Madrid yw canolbwynt gwleidyddol y wlad hefyd.[2] Mae gan ardal drefol Madrid y CMC trydydd-mwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd ac mae ei ddylanwad mewn gwleidyddiaeth, addysg, adloniant, yr amgylchedd, y cyfryngau, ffasiwn, gwyddoniaeth, diwylliant a'r celfyddydau i gyd yn cyfrannu at ei statws fel un o ddinasoedd mawr y byd.[3][4][5]

Mae Madrid yn gartref i ddau glwb pêl-droed byd-enwog, Real Madrid ac Atlético Madrid. Oherwydd ei allbwn economaidd, safon byw uchel, a maint y farchnad, ystyrir Madrid yn brif ganolfan ariannol a phrif ganolbwynt economaidd Penrhyn Iberia a De Ewrop.[6][7][8] Mae'n gartref i brif swyddfeydd llawer o gwmnïau mawr Sbaen, megis Telefónica, IAG neu Repsol. Madrid hefyd yw'r 10fed ddinas fwyaf byw yn y byd yn ôl cylchgrawn Monocle, yn ei mynegai ar 2017.[9]

Mae Madrid yn gartref i bencadlys 'Sefydliad Twristiaeth y Byd' y Cenhedloedd Unedig (UNWTO), Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol Ibero-Americanaidd (SEGIB), Sefydliad Gwladwriaethau Ibero-Americanaidd (OEI), a Bwrdd Goruchwylio Budd y Cyhoedd (PIOB). Mae hefyd yn gartref i reoleiddwyr a hyrwyddwyr rhyngwladol mawr yr iaith Sbaeneg: Pwyllgor Sefydlog Cymdeithas yr Academïau Iaith Sbaeneg, pencadlys yr Academi Frenhinol Sbaenaidd (RAE), yr Instituto Cervantes a Sefydliad Sbaeneg Brys (Fundéu BBVA). Mae Madrid yn trefnu ffeiriau fel FITUR, ARCO, SIMO TCI ac Wythnos Ffasiwn Madrid.[10][11][12][13]

Mae yma bensaerniaeth ddiddorol iawn, ond nid mor unigryw a'r bensaerniaeth yng Nghatalwni. Ymhlith ei dirnodau mae brif sgwar (y Plaza Mayor), Palas Brenhinol Madrid; y Theatr Frenhinol gyda'i Thŷ Opera a adferwyd yn 1850; Parc Buen Retiro, a sefydlwyd ym 1631; adeilad y Llyfrgell Genedlaethol o'r 19g a sefydlwyd ym 1712; llawer o amgueddfeydd cenedlaethol,[14] a'r Triongl Celf Aur (Triángulo del Arte) wedi'u lleoli ar hyd y Paseo del Prado ac sy'n cynnwys tair amgueddfa gelf: Amgueddfa Prado, Amgueddfa Reina Sofía, ac Amgueddfa Thyssen-Bornemisza.[15] Mae Palas a Ffynnon Cibeles wedi dod yn un o symbolau peblogaidd o'r ddinas.[16][17]

  1. "Member of the Governing Council. Delegate for Economy, Employment and Citizen Involvement" (PDF). t. 6. Cyrchwyd 3 Medi 2012.
  2. "Madrid". Encyclopædia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-12. Cyrchwyd 2021-03-22.
  3. "Global city GDP rankings 2008–2025". Pricewaterhouse Coopers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mai 2011. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2009.
  4. Globalization and World Cities (GaWC) Study Group and Network, Prifysgol Loughborough University. "The World According to GaWC 2010". Cyrchwyd 12 Chwefror 2016.
  5. "Global Power City Index 2009" (PDF). Cyrchwyd 14 Ebrill 2011.
  6. "Global Financial Centers Index". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-21. Cyrchwyd 2021-03-22.
  7. "Worldwide Centers of Commerce Index" (PDF). Cyrchwyd 3 Medi 2012.
  8. "Global Power City Index" (PDF). Cyrchwyd 3 Medi 2012.
  9. "Monocle's World's Most Liveable Cities Index 2017". Monocle.com. 10 Mehefin 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Awst 2013. Cyrchwyd 18 Hydref 2010.
  10. "FITUR". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mehefin 2012. Cyrchwyd 17 Mehefin 2012.
  11. "Arte Contemporaneo en España – ARCOmadrid". Ifema.es. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2012.
  12. "SIMO EDUCACIÓN – Learning Technology Exhibition – Home". www.ifema.es. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-01. Cyrchwyd 2021-03-22.
  13. "Cibeles Madrid Fashion Week". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ebrill 2012. Cyrchwyd 27 Mawrth 2012.
  14. "Arquitectura. Edificios de los Museos Estatales". Mcu.es. 25 Ionawr 2012. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  15. "Geography of Madrid". Easy expat. 11 Awst 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-22. Cyrchwyd 2021-03-22.
  16. "Plaza de Cibeles | Spain.info in english". Spain.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-03. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  17. "Madrid's Palacio de Cibeles Renovated Into Jaw-Dropping CentroCentro Cultural Center | Inhabitat – Sustainable Design Innovation, Eco Architecture, Green Building". Inhabitat. Cyrchwyd 7 Awst 2012.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search